Cwrs Sylfaen Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Dyma gwrs ar-lein i rieni a gofalwyr sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am ychydig o brofiad o’r Gymraeg. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith, efo cyfle i drafod pynciau pob dydd i’w defnyddio yn y cartref efo plant bach. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.
Rhestr Wirio Offer TG
Mi fyddwch chi angen cyfrifiadur / gliniadur / tabled efo meicroffon a chamera i gymryd rhan yn y gwersi. Mi fydd angen i chi fod â’ch camera ymlaen yn ystod gwersi er mwyn cymryd rhan lawn yn y broses ddysgu.
Gostyngiadau a Chymorth Ariannol
Cofrestrwch cyn 30 Medi i dderbyn gostyngiad o 50%. Defnyddiwch y cod disgownt WELSH26 wrth gofrestru.
Mae cyrsiau Cymraeg am ddim i:
- ddysgwyr ifainc (18–25 oed)
- staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
- y gweithlu addysg yng Nghymru
Am fwy o fanylion, edrychwch ar ein tudalen ar y wefan neu anfonwch e-bost: dysgucymraeg@bangor.ac.uk
Mae cymorth ariannol ar gael drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, sy’n gallu helpu efo costau ychwanegol fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio - https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/
Llyfr Cwrs
Mi fydd angen i chi brynu fersiwn Gogledd Cymru o’r llyfr cwrs Mynediad. Dach chi’n medru prynu’r llyfrau ar-lein - gwales.com, neu be‘ am gefnogi’ch siop lyfrau leol?
Nodyn Pwysig
Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.