Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Canolradd Rhan 1

Canolradd 1 (Intermediate 1)
Dosbarth
Dosbarth
Cyfeirnod y cwrs: BM27-26-C1
Hyd: 30 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 17/09/2026
Dyddiad Gorffen: 31/07/2027
Amser + Diwrnod: 09:15 - 11:15 Dydd Iau
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Y Fro
Lleoliad: Hen Neuadd - Old Hall, High Street, Cowbridge - Y Bontfaen, Bro Morgannwg, CF71 7AH
£100.00
Lle ar ôl: 1
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 31/10/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs wyneb yn wyneb yn y Bontfaen.

Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Sylfaen ac sy’n addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif batrymau’r Gymraeg. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gydag ychydig mwy o waith ysgrifennu, darllen a gwrando. Byddwch yn cwblhau tua hanner lefel Canolradd ar y cwrs hwn. Byddwn yn dysgu’r cwrs mewn ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos.

Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: https://bit.ly/CwrslyfrCanolraddNewyddDe 

‘Dyn ni’n cynnig gostyngiad Cyw Cynnar o 50% oddi ar ein cyrsiau ar hyn o bryd! Defnyddiwch y cod CYW26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 31/07/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!