Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Mynediad Rhan 1 a 2

Mynediad 1 a 2 (Entry 1 and 2)
Hunan astudio a dosbarth
Hunan astudio a dosbarth
Cyfeirnod y cwrs: BM27-29-M12-CF
Hyd: 30 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 17/09/2026
Dyddiad Gorffen: 31/07/2027
Amser + Diwrnod: 09:00 - 12:00 Dydd Iau
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Y Fro
Lleoliad: Canolfan Palmerston Centre, Cadoc Crescent, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 2NT
£100.00
Lle ar ôl: 5
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 31/10/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs cyfunol wyneb yn wyneb yn y Barri.

CWRS CYFUNOL YW HWN LLE DISGWYLIR I CHI WNEUD 1 AWR YR WYTHNOS O HUNAN-ASTUDIO ER MWYN CWBLHAU'R LEFEL MEWN UN FLWYDDYN ACADEMAIDD.

Dyma gwrs ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion bob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. Byddwch yn anelu at gwblhau dwy ran lefel Mynediad ar y cwrs hwn, a byddwn yn dysgu’r cwrs mewn ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb dan arweiniad tiwtor am 30 wythnos. Bydd disgwyl i chi fynychu 3 awr yr wythnos yn y dosbarth gydag 1 awr ychwanegol o hunan-astudio annibynnol.

Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: http://bit.ly/CwrslyfrMynediadNewyddDe

’Dyn ni’n cynnig gostyngiad o 50% oddi ar ein cyrsiau i ddechreuwyr pur! Defnyddiwch y cod WELSH26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 30/09/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi.