Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Sylfaen Rhan 2

Sylfaen 2 (Foundation 2)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: CAER-g-55424
Hyd: 32 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 15/09/2026
Dyddiad Gorffen: 08/06/2027
Amser + Diwrnod: 09:00 - 16:00 Dydd Mawrth
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gwent
£100.00
Lle ar ôl: 12
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 16/03/2027

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs Sylfaen Rhan 2 + Canolradd Rhan 1 a 2:

Cwrs sy’n addas i bwy? I ddysgwyr sy wedi cwblhau’r cwrs Sylfaen Rhan 1 ac i’r rhai sydd ȃ rhywfaint o brofiad o’r Gymraeg.

Pa lyfr? Cwrs Sylfaen (Fersiwn y De) a Chanolradd

Nifer y sesiynau? 32

Fformat y cwrs? 7 awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)

Dull dysgu? Ar-lein / On-line

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:

  • Disgrifio pobl a phethau
  • Cymharu ansoddeiriau
  • Cyfnewid gwybodaeth ffeithiol a phersonol
  • Rhoi cyfarwyddiadau
  • Ymarfer atebion
  • Dysgu sut i gynghori (dylwn i..)
  • Mynegi dymuniad a’r gallu I wneud rhywbeth (hoffwn I…, gallwn i…)
  • Dysgu trefnolion
  • Adolygu ffurfiau gwahanol ar y gorffennol
  • Adolygu’r dyfodol
  • Cwblhau tasgau darllen, gwrando ac ysgrifennu
  • Paratoi at sefyll yr Arholiad Sylfaen (opsiynol)

Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.

CODAU GOSTYNGIAD

Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd

  • Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
  • Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
  • Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
  • Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig

Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.

Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk 

Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent 

Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95