Cwrs Mynediad Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Pa lyfr? Cwrs Mynediad (Fersiwn y De)
Pa unedau? 1-14
Nifer y sesiynau? 32
Fformat y cwrs? 2 awr yr wythnos (gan gynnwys gwaith cartref wythnosol)
Dull dysgu? Ar-lein
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:
- Geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd
- Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith ac ynganu’n gywir
- Gofyn am wybodaeth bersonol (am eich hunan ac am berson arall e.e. gwaith, byw, diddordebau)
- Siarad am y tywydd
- Siarad am eiddo a’r teulu
- Siarad am yr amser
- Siarad am bethau yn yr amser presennol a’r amser gorffennol
- Cwblhau tasgau darllen, gwrando ac ysgrifennu
Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - CYMRAEG26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.office.com/e/EeqdfstdYr