Cwrs Gloywi Iaith
Ynglŷn â'r cwrs
Dyma gwrs ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf sydd eisiau cryfhau eu sgiliau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig. Ar y cwrs hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:
•gwallau cyffredin
•treigladau
•arddodiaid
•sillafu
•idiomau
•adnabod patrymau Saesneg yn yr iaith Gymraeg – a’u newid am batrymau Cymreig Addas ar gyfer pobl sy’n ddysgwyr rhugl neu’n Gymry Cymraeg iaith gyntaf sydd eisiau canolbwyntio ar loywi eu hiaith lafar ac ysgrifenedig.
Telerau
Lluniaeth Llawn
Y gost am gwrs lluniaeth llawn yw £615. Bydd hyn yn cynnwys y cwrs, y llety a’r bwyd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd noson o adloniant ar y nos Fawrth a thrip ar y prynhawn dydd Mercher.
Wrth i chi gofrestru ar gyfer y cwrs bydd dewis i archebu llety ar gyfer y nos Sul cyn y cwrs am gost ychwanegol o £75 (gwely a brecwast). Rydym yn eich annog i archebu’r nos Sul wrth gofrestru ar gyfer y cwrs os yw hynny’n bosib.
Dyddiol
Os nad ydych chi angen llety ac yn bwriadu teithio yn ddyddiol dyma’r opsiynau sydd ar gael:
Trigolion Gwynedd a Môn: Os ydych yn byw* yn lleol gallwch ddod ar gwrs a theithio i'r Nant bob dydd am bris gostyngedig. Y pris yw £185 am gwrs 5 niwrnod.
*Mae'r cynnig yma ar gyfer unigolion sydd â'u prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn.
Os nad yw eich prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn y pris i deithio yn ddyddiol yw £356 am gwrs 5 niwrnod.
Bydd eich cinio wedi ei gynnwys yn y pris dyddiol ac mae croeso i chi ymuno am swper ar y nos Fawrth pan mae adloniant wedi ei drefnu dim ond i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw. Cofiwch nodi unrhyw anghenion dietegol.
Bydd y cwrs yn gorffen am 13:00 ar y dydd Gwener er mwyn rhoi digon o amser i bawb deithio adref yn y prynhawn.