Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Mynediad Rhan 1

Mynediad 1 (Entry 1)
Preswyl
Preswyl
Cyfeirnod y cwrs: C2734
Hyd: 1 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 05/07/2027
Dyddiad Gorffen: 09/07/2027
Amser + Diwrnod: 09:30 - 17:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
Lleoliad: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL536NL
£615.00
Lle ar ôl: 0
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 21/06/2027

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer unigolion sydd ar ddechrau eu taith iaith. Nid oes angen i ddysgwyr ar y cwrs yma fod wedi astudio’r Gymraeg cyn hyn*. Fodd bynnag, mae modd i ddysgwyr sydd yn astudio ar lefel Mynediad 1 ar gwrs Dysgu Cymraeg y tu hwnt i’r Nant defnyddio’r cwrs fel cyfle i adolygu. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu cael sgwrs am bethau pob dydd megis archebu coffi a chacen mewn caffi, neu gofyn am ddiod mewn tafarn. Mae lleoliad arbennig Nant Gwrtheyrn yn gyfle arbennig i chi brofi addysg drochi mewn awyrgylch hollol Gymraeg. Byddwn yn eich hannog i ddefnyddio’r cyfleoedd sydd gyda ni yma ar y safle i ymestyn eich sgiliau drwy ddefnyddio’r iaith, i flasu diwylliant arbennig y Gymraeg ac ehangu eich gorwelion fel unigolion dwyieithog neu amlieithog.
*Byddwn yn anfon e-bost at bob dysgwr 12 wythnos cyn y cwrs gyda rhywfaint o fideos ac ati i chi eu gwylio er mwyn ymgyfarwyddo rhywfaint gyda sŵn yr iaith ac ambell i batrwm syml fel sut i gyflwyno eich hun ac ati cyn dod ar y cwrs. Bydd hyn gobeithio yn caniatáu i chi ymlacio ar eich bore cyntaf ar y cwrs.
Telerau Lluniaeth Llawn
Y gost am gwrs lluniaeth llawn yw £615. Bydd hyn yn cynnwys y cwrs, y llety a’r bwyd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd noson o adloniant ar y nos Fawrth a thrip ar y prynhawn dydd Mercher. Wrth i chi gofrestru ar gyfer y cwrs bydd dewis i archebu llety ar gyfer y nos Sul cyn y cwrs am gost ychwanegol o £75 (gwely a brecwast). Rydym yn eich annog i archebu’r nos Sul wrth gofrestru ar gyfer y cwrs os yw hynny’n bosib.
Dyddiol
Os nad ydych chi angen llety ac yn bwriadu teithio yn ddyddiol dyma’r opsiynau sydd ar gael:
Trigolion Gwynedd a Môn:
Os ydych yn byw* yn lleol gallwch ddod ar gwrs a theithio i'r Nant bob dydd am bris gostyngedig. Y pris yw £185 am gwrs 5 niwrnod. *Mae'r cynnig yma ar gyfer unigolion sydd â'u prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn.
Os nad yw eich prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn y pris i deithio yn ddyddiol yw £356 am gwrs 5 niwrnod. Bydd eich cinio wedi ei gynnwys yn y pris dyddiol ac mae croeso i chi ymuno am swper ar y nos Fawrth pan mae adloniant wedi ei drefnu dim ond i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw. Cofiwch nodi unrhyw anghenion dietegol. Bydd y cwrs yn gorffen am 13:00 ar y dydd Gwener er mwyn rhoi digon o amser i bawb deithio adref yn y prynhawn.