Cwrs Uwch 1 - Rhan i a ii
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer dysgwyr profiadol. Gall hyn olygu eich bod wedi astudio ar lefel Canolradd Nant Gwrtheyrn neu Dysgu Cymraeg. Mae’n addas hefyd ar gyfer unigolion sy’n astudio ar lefel Uwch Dysgu Cymraeg ac sydd eisiau adolygu. Dylai dysgwyr ar y cwrs yma allu sgwrsio’n rhydd yn Gymraeg, a bod yn awyddus i ehangu eu geirfa, a manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio’u Cymraeg.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi dechrau siarad mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac wedi datblygu rhagor o eirfa i ymdopi â sgyrsiau nad ydych wedi paratoi ar eu cyfer. Byddwch wedi datblygu’r sgiliau i ddeall manylion ac ymateb lle bo’n briodol.
Mae lleoliad arbennig Nant Gwrtheyrn yn gyfle arbennig i chi brofi addysg drochi mewn awyrgylch hollol Gymraeg. Byddwn yn eich hannog i ddefnyddio’r cyfleoedd sydd gyda ni yma ar y safle i ymestyn eich sgiliau drwy ddefnyddio’r iaith, i flasu diwylliant arbennig y Gymraeg ac ehangu eich gorwelion fel unigolion dwyieithog neu amlieithog.
Telerau
Lluniaeth Llawn
Y gost am gwrs lluniaeth llawn yw £615. Bydd hyn yn cynnwys y cwrs, y llety a’r bwyd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd noson o adloniant ar y nos Fawrth a thrip ar y prynhawn dydd Mercher.
Wrth i chi gofrestru ar gyfer y cwrs bydd dewis i archebu llety ar gyfer y nos Sul cyn y cwrs am gost ychwanegol o £75 (gwely a brecwast). Rydym yn eich annog i archebu’r nos Sul wrth gofrestru ar gyfer y cwrs os yw hynny’n bosib.
Dyddiol
Os nad ydych chi angen llety ac yn bwriadu teithio yn ddyddiol dyma’r opsiynau sydd ar gael:
Trigolion Gwynedd a Môn: Os ydych yn byw* yn lleol gallwch ddod ar gwrs a theithio i'r Nant bob dydd am bris gostyngedig. Y pris yw £185 am gwrs 5 niwrnod.
*Mae'r cynnig yma ar gyfer unigolion sydd â'u prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn.
Os nad yw eich prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn y pris i deithio yn ddyddiol yw £356 am gwrs 5 niwrnod.
Bydd eich cinio wedi ei gynnwys yn y pris dyddiol ac mae croeso i chi ymuno am swper ar y nos Fawrth pan mae adloniant wedi ei drefnu dim ond i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw. Cofiwch nodi unrhyw anghenion dietegol.
Bydd y cwrs yn gorffen am 13:00 ar y dydd Gwener er mwyn rhoi digon o amser i bawb deithio adref yn y prynhawn.