Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Mynediad Rhan 2

Mynediad 2 (Entry 2)
Preswyl
Preswyl
Cyfeirnod y cwrs: C2726
Hyd: 1 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 12/04/2027
Dyddiad Gorffen: 16/04/2027
Amser + Diwrnod: 09:30 - 17:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
Lleoliad: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL536NL
£615.00
Lle ar ôl: 0
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 29/03/2027

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer unigolion sydd ag ychydig o brofiad o ddysgu Cymraeg. Gall hyn olygu eich bod wedi astudio ar lefel Mynediad 1 Nant Gwrtheyrn neu Dysgu Cymraeg. Mae’n addas hefyd ar gyfer unigolion sydd wedi dilyn llwybr hunan astudio e.e. cwrs ar-lein, Duo Lingo neu Say Something in Welsh. Fodd bynnag, mae modd i ddysgwyr sydd yn astudio ar lefel Mynediad ar gwrs Dysgu Cymraeg y tu hwnt i’r Nant ddefnyddio’r cwrs fel cyfle i adolygu.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu siarad am eich hun ac eraill yn hyderus, ac wedi datblygu eich gallu i sgwrsio am bethau bob dydd.
Mae lleoliad arbennig Nant Gwrtheyrn yn gyfle arbennig i chi brofi addysg drochi mewn awyrgylch hollol Gymraeg. Byddwn yn eich hannog i ddefnyddio’r cyfleoedd sydd gyda ni yma ar y safle i ymestyn eich sgiliau drwy ddefnyddio’r iaith, i flasu diwylliant arbennig y Gymraeg ac ehangu eich gorwelion fel unigolion dwyieithog neu amlieithog.

Telerau
Lluniaeth Llawn
Y gost am gwrs lluniaeth llawn yw £615. Bydd hyn yn cynnwys y cwrs, y llety a’r bwyd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd noson o adloniant ar y nos Fawrth a thrip ar y prynhawn dydd Mercher.
Wrth i chi gofrestru ar gyfer y cwrs bydd dewis i archebu llety ar gyfer y nos Sul cyn y cwrs am gost ychwanegol o £75 (gwely a brecwast). Rydym yn eich annog i archebu’r nos Sul wrth gofrestru ar gyfer y cwrs os yw hynny’n bosib.

Dyddiol
Os nad ydych chi angen llety ac yn bwriadu teithio yn ddyddiol dyma’r opsiynau sydd ar gael:
Trigolion Gwynedd a Môn: Os ydych yn byw* yn lleol gallwch ddod ar gwrs a theithio i'r Nant bob dydd am bris gostyngedig. Y pris yw £185 am gwrs 5 niwrnod.
*Mae'r cynnig yma ar gyfer unigolion sydd â'u prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn.
Os nad yw eich prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn y pris i deithio yn ddyddiol yw £356 am gwrs 5 niwrnod.
Bydd eich cinio wedi ei gynnwys yn y pris dyddiol ac mae croeso i chi ymuno am swper ar y nos Fawrth pan mae adloniant wedi ei drefnu dim ond i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw. Cofiwch nodi unrhyw anghenion dietegol.

Bydd y cwrs yn gorffen am 13:00 ar y dydd Gwener er mwyn rhoi digon o amser i bawb deithio adref yn y prynhawn.