Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2
Canolradd 1 a 2 (Intermediate 1 and 2)
Cyfeirnod y cwrs:
C2719
Hyd:
1 Wythnos
Dyddiad cychwyn:
25/01/2027
Dyddiad Gorffen:
29/01/2027
Amser + Diwrnod:
10:00 - 16:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith:
D/B
Ffrwd dysgu:
Prif Ffrwd
Darparwr:
Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
£175.00
Lle ar ôl:
0
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 11/01/2027
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer unigolion sydd â thipyn o brofiad o ddysgu Cymraeg. Gall hyn olygu eich bod wedi astudio ar lefel Sylfaen 2 Nant Gwrtheyrn neu Dysgu Cymraeg. Mae’n addas hefyd ar gyfer unigolion sy’n astudio ar lefel Canolradd Dysgu Cymraeg ac sydd eisiau adolygu. Dylai dysgwyr ar y cwrs yma allu gofyn ac ateb cwestiynau yn Gymraeg. Mae’n addas hefyd ar gyfer dysgwyr sydd heb ddilyn cwrs yn ddiweddar, ond sy’n cofio tipyn o’u Cymraeg. Gall hyn olygu eu bod wedi astudio Cymraeg fel ail-iaith yn yr ysgol, ac yn gallu sgwrsio yn Gymraeg ar bynciau cyfarwydd.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu cynnal sgwrs wrth gwrdd â pherson diarth a deall gwybodaeth newydd nad ydych yn gallu ei rhagweld.
Mae lleoliad arbennig Nant Gwrtheyrn yn gyfle arbennig i chi brofi addysg drochi mewn awyrgylch hollol Gymraeg. Byddwn yn eich hannog i ddefnyddio’r cyfleoedd sydd gyda ni yma ar y safle i ymestyn eich sgiliau drwy ddefnyddio’r iaith, i flasu diwylliant arbennig y Gymraeg ac ehangu eich gorwelion fel unigolion dwyieithog neu amlieithog. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar lein dros Zoom o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10:00 a 16:00 dan arweiniad tiwtor.