Cwrs Mynediad Rhan 1
Mynediad 1 (Entry 1)
Cyfeirnod y cwrs:
C2718
Hyd:
1 Wythnos
Dyddiad cychwyn:
18/01/2027
Dyddiad Gorffen:
22/01/2027
Amser + Diwrnod:
10:00 - 16:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith:
D/B
Ffrwd dysgu:
Prif Ffrwd
Darparwr:
Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
£175.00
Lle ar ôl:
2
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 04/01/2027
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer unigolion sydd ar ddechrau eu taith iaith. Nid oes angen i ddysgwyr ar y cwrs yma fod wedi astudio’r Gymraeg cyn hyn*. Fodd bynnag, mae modd i ddysgwyr sydd yn astudio ar lefel Mynediad 1 ar gwrs Dysgu Cymraeg y tu hwnt i’r Nant defnyddio’r cwrs fel cyfle i adolygu. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu cael sgwrs am bethau pob dydd megis archebu coffi a chacen mewn caffi, neu gofyn am ddiod mewn tafarn. Mae lleoliad arbennig Nant Gwrtheyrn yn gyfle arbennig i chi brofi addysg drochi mewn awyrgylch hollol Gymraeg. Byddwn yn eich hannog i ddefnyddio’r cyfleoedd sydd gyda ni yma ar y safle i ymestyn eich sgiliau drwy ddefnyddio’r iaith, i flasu diwylliant arbennig y Gymraeg ac ehangu eich gorwelion fel unigolion dwyieithog neu amlieithog.
*Byddwn yn anfon e-bost at bob dysgwr 12 wythnos cyn y cwrs gyda rhywfaint o fideos ac ati i chi eu gwylio er mwyn ymgyfarwyddo rhywfaint gyda sŵn yr iaith ac ambell i batrwm syml fel sut i gyflwyno eich hun ac ati cyn dod ar y cwrs. Bydd hyn gobeithio yn caniatáu i chi ymlacio ar eich bore cyntaf ar y cwrs. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar lein dros Zoom o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10:00 a 16:00 dan arweiniad tiwtor.