Cwrs Mynediad Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
Dyma gwrs cyfunol i bobl ifanc (18-25 oed) sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.
Be’ ydy ‘dysgu cyfunol’?
Mae cwrs dysgu cyfunol yn cynnwys gwersi byw ar Zoom dan ofal tiwtor ac unedau hunan-astudio y bydd angen i chi eu cwblhau ar-lein cyn y gwersi. O ganlyniad, mi fyddwch chi’n cwblhau lefel Mynediad mewn blwyddyn academaidd.
Rhestr Wirio Offer TG
Mi fyddwch chi angen cyfrifiadur / gliniadur / tabled efo meicroffon a chamera i gymryd rhan yn y gwersi. Mi fydd angen i chi fod â’ch camera ymlaen yn ystod gwersi er mwyn cymryd rhan lawn yn y broses ddysgu.
Gostyngiadau a Chymorth Ariannol
Cofrestrwch cyn 30 Medi i dderbyn gostyngiad o 50%. Defnyddiwch y cod disgownt WELSH26wrth gofrestru.
Mae cyrsiau Cymraeg am ddim i:
- ddysgwyr ifainc (18–25 oed)
- staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
- y gweithlu addysg yng Nghymru
Am fwy o fanylion, edrychwch ar ein tudalen ar y wefan neu anfonwch e-bost: dysgucymraeg@bangor.ac.uk
Mae cymorth ariannol ar gael drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, sy’n gallu helpu efo costau ychwanegol fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio - https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/
Llyfr Cwrs
Mi fydd angen i chi brynu fersiwn Gogledd Cymru o’r llyfr cwrs Mynediad. Dach chi’n medru prynu’r llyfrau ar-lein - gwales.com, neu be‘ am gefnogi’ch siop lyfrau leol?
Nodyn Pwysig
Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.