Cwrs Sylfaen Rhan 1
Sylfaen 1 (Foundation 1)
Cyfeirnod y cwrs:
C2717
Hyd:
1 Wythnos
Dyddiad cychwyn:
11/01/2027
Dyddiad Gorffen:
15/01/2027
Amser + Diwrnod:
10:00 - 16:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith:
D/B
Ffrwd dysgu:
Prif Ffrwd
Darparwr:
Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
£175.00
Lle ar ôl:
2
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 28/12/2026
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer unigolion sydd â phrofiad o ddysgu Cymraeg. Gall hyn olygu eich bod wedi astudio ar lefel Mynediad 1 a 2 Nant Gwrtheyrn neu Dysgu Cymraeg. Mae’n addas hefyd ar gyfer unigolion sy’n astudio ar lefel Sylfaen 1 Dysgu Cymraeg ac sydd eisiau adolygu. Mae’n addas hefyd ar gyfer dysgwyr sydd heb ddilyn cwrs yn ddiweddar, ac sydd eisiau ail afael yn eu Cymraeg gyda hyder. Gall hyn olygu eu bod wedi astudio Cymraeg fel ail-iaith yn yr ysgol, neu heb ddefnyddio’u Cymraeg ers amser. Mae dysgwyr sy’n dod ar y cwrs yma yn gallu cyflwyno eu hunain ac ymateb i gwestiynau syml yn Gymraeg.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu defnyddio brawddegau estynedig a sgwrsio am fwy o amser ac ar nifer o bynciau amrywiol.
Mae lleoliad arbennig Nant Gwrtheyrn yn gyfle arbennig i chi brofi addysg drochi mewn awyrgylch hollol Gymraeg. Byddwn yn eich hannog i ddefnyddio’r cyfleoedd sydd gyda ni yma ar y safle i ymestyn eich sgiliau drwy ddefnyddio’r iaith, i flasu diwylliant arbennig y Gymraeg ac ehangu eich gorwelion fel unigolion dwyieithog neu amlieithog. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar lein dros Zoom o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10:00 a 16:00 dan arweiniad tiwtor.