Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Uwch 1 - Rhan i a ii

Uwch 1 i a ii (Advanced 1 i and ii)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: C2716
Hyd: 1 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 14/12/2026
Dyddiad Gorffen: 18/12/2026
Amser + Diwrnod: 10:00 - 16:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
£175.00
Lle ar ôl: 4
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 30/11/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer dysgwyr profiadol. Gall hyn olygu eich bod wedi astudio ar lefel Canolradd Nant Gwrtheyrn neu Dysgu Cymraeg. Mae’n addas hefyd ar gyfer unigolion sy’n astudio ar lefel Uwch Dysgu Cymraeg ac sydd eisiau adolygu. Dylai dysgwyr ar y cwrs yma allu sgwrsio’n rhydd yn Gymraeg, a bod yn awyddus i ehangu eu geirfa, a manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio’u Cymraeg. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi dechrau siarad mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac wedi datblygu rhagor o eirfa i ymdopi â sgyrsiau nad ydych wedi paratoi ar eu cyfer. Byddwch wedi datblygu’r sgiliau i ddeall manylion ac ymateb lle bo’n briodol. Mae lleoliad arbennig Nant Gwrtheyrn yn gyfle arbennig i chi brofi addysg drochi mewn awyrgylch hollol Gymraeg. Byddwn yn eich hannog i ddefnyddio’r cyfleoedd sydd gyda ni yma ar y safle i ymestyn eich sgiliau drwy ddefnyddio’r iaith, i flasu diwylliant arbennig y Gymraeg ac ehangu eich gorwelion fel unigolion dwyieithog neu amlieithog. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar lein dros Zoom o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10:00 a 16:00 dan arweiniad tiwtor.