Cwrs Mynediad Rhan 2
Mynediad 2 (Entry 2)
Cyfeirnod y cwrs:
C2714
Hyd:
1 Wythnos
Dyddiad cychwyn:
07/12/2026
Dyddiad Gorffen:
11/12/2026
Amser + Diwrnod:
10:00 - 16:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith:
D/B
Ffrwd dysgu:
Prif Ffrwd
Darparwr:
Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
£175.00
Lle ar ôl:
1
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 23/11/2026
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer unigolion sydd ag ychydig o brofiad o ddysgu Cymraeg. Gall hyn olygu eich bod wedi astudio ar lefel Mynediad 1 Nant Gwrtheyrn neu Dysgu Cymraeg. Mae’n addas hefyd ar gyfer unigolion sydd wedi dilyn llwybr hunan astudio e.e. cwrs ar-lein, Duo Lingo neu Say Something in Welsh. Fodd bynnag, mae modd i ddysgwyr sydd yn astudio ar lefel Mynediad ar gwrs Dysgu Cymraeg y tu hwnt i’r Nant ddefnyddio’r cwrs fel cyfle i adolygu.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu siarad am eich hun ac eraill yn hyderus, ac wedi datblygu eich gallu i sgwrsio am bethau bob dydd.
Mae lleoliad arbennig Nant Gwrtheyrn yn gyfle arbennig i chi brofi addysg drochi mewn awyrgylch hollol Gymraeg. Byddwn yn eich hannog i ddefnyddio’r cyfleoedd sydd gyda ni yma ar y safle i ymestyn eich sgiliau drwy ddefnyddio’r iaith, i flasu diwylliant arbennig y Gymraeg ac ehangu eich gorwelion fel unigolion dwyieithog neu amlieithog. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar lein dros Zoom o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10:00 a 16:00 dan arweiniad tiwtor.