Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Mynediad Rhan 1 a 2

Mynediad 1 a 2 (Entry 1 and 2)
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Hunan astudio a dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: CAS-g-55428
Hyd: 32 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 30/09/2026
Dyddiad Gorffen: 23/06/2027
Amser + Diwrnod: 09:00 - 12:00 Dydd Mercher
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gwent
£100.00
Lle ar ôl: 4
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 18/12/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Mynediad Rhan 1&2

Cwrs sy’n addas i bwy? Cwrs dwys i ddechreuwyr pur sy eisiau cwblhau lefel Mynediad Rhan 1 a 2 mewn blwyddyn

Pa lyfr? Cwrs Mynediad (Fersiwn y De)

Pa unedau? 1-28

Nifer y sesiynau? 32

Fformat y cwrs? 3 awr yr wythnos mewn dosbarth rhithiol a hefyd dysgu’n annibynnol ar-lein gartre rhwng pob gwers (Mae’r dysgu’n annibynnol yn rhan annatod o’r cwrs)

Dull dysgu?Ar-lein

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:

  • Geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd
  • Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith ac ynganu’n gywir
  • Gofyn am wybodaeth bersonol (am eich hunan ac am berson arall e.e. gwaith, byw, diddordebau)
  • Siarad am y tywydd
  • Siarad am eiddo a’r teulu
  • Siarad am yr amser
  • Siarad am bethau yn yr amser presennol a’r amser gorffennol
  • Siarad am ddiddordebau
  • Siarad am amser ac arian
  • Siarad am ddigwyddiadau yn y dyfodol
  • Rhoi gorchymnion
  • Siarad am eich eiddo a’ch perthnasau
  • Gofyn am eiddo a pherthnasau pobl eraill
  • Gofyn am bethau mewn caffi
  • Siarad am orfod gwneud pethau
  • Cwblhau tasgau darllen, gwrando ac ysgrifennu
  • Paratoi at sefyll yr Arholiad Mynediad (opsiynol)

Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.

CODAU GOSTYNGIAD

Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd

  • Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
  • Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
  • Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
  • Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig

Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.

Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk 

Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent 

Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95