Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
Canolradd Rhan 1&2:
Cwrs sy’n addas i bwy? Cwrs dwys i ddysgwyr sy wedi cwblhau lefel Sylfaen neu sy’n gyfarwydd ȃ phrif batrymau’r iaith a hefyd, i’r rhai sy eisiau cwblhau lefel Canolradd Rhan 1 a 2 mewn blwyddyn.
Pa lyfr? Cwrs Canolradd (Fersiwn y De)
Pa unedau? 1-19
Nifer y sesiynau? 32
Fformat y cwrs? 3 awr yr wythnos mewn dosbarth rhithiol a hefyd dysgu’n annibynnol ar-lein gartre rhwng pob gwers (Mae’r dysgu’n annibynnol yn rhan annatod o’r cwrs)
Dull dysgu?Dosbarth
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?:
- Adolygu ac ymestyn eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu
- Mynegi barn (Dw i’n meddwl bod…)
- Cwyno am rywbeth (trafod byth ac erioed)
- Rhoi cymorth (adolygu’r dyfodol cryno)
- Derbyn, gwrthod gwahoddiad a gwadu (adolygu arddodiaid)
- Rhoi cyfarwyddiadau (dysgu arddodiaid cyfansawdd)
- Perswadio (Dylwn I fod wedi…)
- Trafod pynciau gwahanol
- Disgrifio pethau gan ddefnyddio patrwm y goddefol a’r amhersonol
- Siarad am bobl a swyddi gan ddefnyddio ‘sy’, ‘oedd’, ‘fydd’
- Mynegi barn gan ddefnyddio ‘taw’ a phwyslais
- Defnyddio cywasgiadau (i + ei = i’w)
- Dysgu dyddiadau
- Dysgu sut i ddefnyddio ‘hwn’, ‘hwnna’, ‘hon’, ‘honna’, ‘y rhain’, ‘y rheina’
- Paratoi at sefyll yr Arholiad Canolradd (opsiynol)
Mae’r dosbarthiadau’n hwyl ac yn anffurfiol a chewch groeso twymgalon iawn gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar.
CODAU GOSTYNGIAD
Defnyddiwch y codau disgownt isod i dderbyn gostyngiad yn eich ffioedd
- Dysgwyr Cyfredol (50%) - CYW26
- Dysgwyr Newydd (50%) - WELSH26
- Ar gyfer y Gweithlu Addysg (h.y. yr holl staff sy’n gweithio o fewn addysg) (100%) - ADDYSG
- Bydd pob dysgwr rhwng 16-25 oed yn derbyn gostyngiad o 100% yn awtomatig
Rhaid i chi nodi'r cod uchod ar y dudalen dalu i dderbyn y gostyngiad.
Os hoffech chi dalu mewn rhandaliadau neu i drafod y ffioedd, cysylltwch â welsh@coleggwent.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ar ffioedd, gostyngiadau a llyfrau ewch i www.dysgucymraeg.cymru/gwent
Dosbarth yn llawn? Cliciwch yma i lenwi ffurflen Rhestr Aros: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95